Lilian NoreenROBERTSBu farw Lilian o Hafodlas, Llwynhudol, Pwllheli ar ddydd Gwener 2il Chwefor, 2024 yn Ysbyty Bryn Beryl, yn 90 oed.
Priod cariadus Iestyn, mam annwyl Maredudd, Sioned, Bedwyr a Llinos a mam yng nghyfraith Siân, Phil a Catrin. Nain garedig Nia, Sara, Elis, Manon, Luned, Gruff ac Elin. Llys-nain Siôn, Wil a Tom, nain yng nghyfraith Gruff Arfon a hen nain Deio, Begw ac Ifor.
Gwasanaeth yn Eglwys Sant Cawrdaf Abererch dydd Gwener, Chwefor 16eg, 2024 am 11 o'r gloch ac yna ym Mynwent Deneio, Pwllheli. Croeso i bawb ddod i ddathlu ei bywyd.
Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof, tuag at Gronfa Cyfeillion Ysbyty Bryn Beryl, trwy Ymgymerwyr Angladdau
G D Roberts a'i Fab Cyf Capel Gorffwys,Pwllheli 01758 701107.
Keep me informed of updates